SL(5)365 - Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i gywiro cyfeiriadau yn Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 (“Rheoliadau 2019”).

Mae'r Rheoliadau yn mynd i'r afael â materion technegol y cyflwynodd y Pwyllgor adroddiad arnynt yn flaenorol pan oedd yn craffu ar Reoliadau 2019.

Gweithdrefn

Cadarnhaol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Mae'r Memorandwm Esboniadol (uniaith Saesneg) i'r Rheoliadau hyn yn cynnwys y gwallau a ganlyn:

1.     Yn y trydydd paragraff o dan y pennawd “Description” ar dudalen 2, diffinnir Rheoliadau 2019 fel “The Regulated Advocacy (Service Providers and Responsible Individuals) (Wales) Regulations 2019” - y teitl cywir yw “The Regulated Advocacy Services (Service Providers and Responsible Individuals) (Wales) Regulations 2019”.

2.     Yn y paragraff o dan y pennawd “Legislative background” ar dudalen 2, mae'r Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio'n anghywir at wneud y Rheoliadau hyn gan ddefnyddio pwerau o dan adrannau 27 a 186 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, ond y pwerau galluogi y dibynnir arnynt i wneud y Rheoliadau hyn yw adrannau 27 a 187 o'r Ddeddf honno.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

11 Mehefin 2019